Mae YmgynghorIAITH yn darparu cyngor arbenigol a gwasanaethau ymgynghori ar y Gymraeg, gan gynnwys Safonau’r Gymraeg, addysg cyfrwng Cymraeg, ymwybyddiaeth iaith a Chymraeg yn y gweithle.
Ydych chi’n barod ar gyfer y Safonau Iaith newydd?
Dyma enghreifftiau o’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu
- Cyngor ar ofynion statudol e.e. Safonau’r Gymraeg
- Cynllunio ieithyddol
- Hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith
- Cyngor arbenigol un i un
- Llunio Polisïau Iaith a Strategaethau
- Strategaeth Sgiliau Dwyieithog, Asesiadau Sgiliau, Cynlluniau Hyfforddi Corfforaethol
- Asesiad Effaith ar y Gymraeg
- Strategaethau Hybu’r Gymraeg
- Cyngor arbenigol ar ddefnydd o’r Gymraeg yn fewnol
- Monitro a chydymffurio â Chynlluniau Iaith Gymraeg a Safonau’r Gymraeg
Hyfforddiant iaith
Mae gan YmgynghorIAITH dros 20 mlynedd o brofiad o hyfforddi yn y Gymraeg yn y gweithle. Rydym yn darparu hyfforddiant sy’n ateb eich gofynion penodol chi fel busnes ac yn gweithio’n agos gyda chi i sicrhau bod yr hyfforddiant yn addas ac yn briodol i’ch cyd-destun gwaith chi.
- Hyfforddiant iaith i staff ar bob lefel ac wedi’i deilwra i gyd-destun gwaith
- Hyfforddiant Cyfarch a delio â chwsmeriaid i staff rheng-flaen
- Cymorth gyda defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle a therminoleg
- Hyfforddiant iaith un i un arbenigol a mentora uwch-reolwyr
- A fyddech chi’n hoffi cael cymorth gyda chyflwyno yn y Gymraeg?
- A oes angen i chi hyfforddi eich staff rheng-flaen sut i gyfarch yn y Gymraeg?
- Beth am eich staff sy’n siarad rhywfaint o Gymraeg yn barod? A fydden nhw’n cael budd o hyfforddiant arbenigol er mwyn cynyddu eu defnydd o’r Gymraeg yn broffesiynol?
- Oes dyddiadur prysur gyda chi ac a fyddai’n well gennych dderbyn hyfforddiant iaith hyblyg un i un?
Cysylltwch â ni er mwyn i ni gynllunio hyfforddiant iaith i gwrdd â’ch gofynion chi.
Ar gyfer ymgynghoriad cychwynnol am ddim, cysylltwch â ni.
Sut y gallwn ni helpu
YmgynghorIAITH
- Gweithredu Safonau’r Gymraeg (a Chynlluniau Iaith)
- Asesiadau Traw Effaith
- Gwerthusiad o’r Gyllideb
- Strategaeth Hybu’r Gymraeg
- Strategaeth Sgiliau Dwyieithog
- Strategaethau Hyfforddiant Iaith
- Defnydd Mewnol o’r Gymraeg
- Awdit sgiliau
- Cynllunio ieithyddol i reolwyr a swyddogion iaith
- Ymwybyddiaeth iaith
- Beth yw’r Safonau?
- Gweithredu Safonau’r Gymraeg: Hyfforddiant cychwynnol
- Cynefino
- Cynnig Rhagweithiol
- Beth yw prif ffrydio?
- Cwblhau asesiad traw effaith
- Hyfforddiant ar Strategaethau Sgiliau Dwyieithog
- Gwasanaeth Ymgynghorol ar Addysg Cyfrwng Cymraeg
- Cynllunio a chynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg
- Strategaethau Addysg Gymraeg
Language Training
- Hyfforddiant sgiliau iaith
- Hyfforddiant Cymraeg yn y gweithle o ddechreuwyr hyd at Lefel A
- Hyfforddiant iaith i siaradwyr Cymraeg yn y gweithle
- Hyfforddiant arbenigol ar ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destun gwaith
- Mentora un i un
- Ysgrifennu areithiau a siarad cyhoeddus yn y Gymraeg ac yn ddwyieithog gan gynnwys terminoleg
Beth yw Mesur y Gymraeg?
Galluogodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 Weinidogion Cymru i lunio safonau.
- Rhoi statws ffurfiol i’r Gymraeg yng Nghymru
- Darparu ar gyfer Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
- Sefydlu rôl Comisiynydd y Gymraeg
- Galluogi hybu a hwyluso defnydd y Gymraeg
- Galluogi sefydlu safonau parthed y Gymraeg
- Sefydlu’r egwyddor na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg
- Galluogi archwiliadau i ymyrraeth â rhyddid pobl i ddefnyddio’r Gymraeg e.e. yn y gwaith
- Creu Tribiwnlys y Gymraeg

Beth yw Safonau’r Gymraeg?
Pwrpas Safonau’r Gymraeg yw sicrhau lefel gyson o wasanaeth yn y Gymraeg y gall siaradwyr y Gymraeg ei disgwyl ar draws Cymru.
- Bydd Safonau’r Gymraeg yn raddol yn cymryd lle Cynllun Iaith, a ddaeth i rym drwy Ddeddf yr Iaith Gymraeg, 1993.
- Bydd Comsiynydd y Gymraeg yn gyfrifol am osod Safonau ar sefydliadau.
- Mae gofyn i sefydliadau a enwir ym Mesur y Gymraeg weithredu Safonau’r Gymraeg. Mae rhaglen dreigl ar gyfer gwneud y Safonau yn weithredol i bob sefydliad sydd wedi’i enwi.
- Gosodwyd y gyfres gyntaf o Safonau gerbron Cynlluniad Cymru ym mis Mawrth 2015.
- Y clwstwr cyntaf o sefydliadau a oedd yn gorfod cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg oedd Gweinidogion Cymru, y parciau cenedlaethol a’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.
- Mae’r 119 o sefydliadau yn yr ail glwstwr yn y sectorau canlynol: addysg, iechyd, cyrff cyhoeddus, darlledu a chyrff y tu allan i Gymru sy’n darparu gwasanaethau i Gymru.