Mae RHD Consultancy yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau i helpu’ch busnes. Boed yn wasanaethau ymgynghoriaeth reoli, ymchwil, neu hyfforddiant iaith, byddwn yn gwneud ein gorau i ddarparu’r cymorth a’r cyngor rydych yn ei haeddu.
Ymchwilio a Gwerthuso
- Gwerthuso polisïau
- Prosiectau ymchwil
- Ymchwiliadau e.e. cydymffurfiaeth, llywodraethiant, cwynion
- Casglu a dadansoddi data a thystiolaeth er mwyn llunio a llywio polisïau
- Adrodd, cyhoeddi a chyflwyno canfyddiadau, datrysiadau ac argymhellion
- Ymgynghoriadau
- Hwyluso grwpiau ffocws
Datrysiadau mewn Addysg
- Sicrhau ansawdd a gwella parhaus
- Datblygiad Proffesiynol Parhaus, hyfforddi, diwrnodau cwrdd i ffwrdd
- Mentora ymarferwyr proffesiynol ac arweinwyr yn y maes addysg
- Ymgysylltu, ymgynghori, a chyfathrebu ag ymarferwyr
- Hyfforddiant i Lywodraethwyr
- Prosiectau Llais y Dysgwr a boddhâd myfyrwyr
- Llunio a gweithredu polisïau a strategaethau mewn cyd-destun addysg
- Ymgysylltu â rhieni a’r gymuned
Ymgynghori
- Llunio polisïau a strategaethau a’u datblygu, gweithredu, monitro a gwerthuso
- Cyfeiriad strategol a llunio Cynlluniau Strategol
- Rheoli rhaglenni a phrosiectau
- Rheoli newid
- Ymgynghoriadau
- Ymgysylltu â staff a chyfathrebu mewnol
- Cyflwyno i uwch reolwyr a byrddau rheoli
- Creu pecynnau hyfforddi a chanllawiau i staff a chwsmeriaid
- Ysgrifennu areithiau a siarad cyhoeddus
- Mentora
- Adnabod arbedion ariannol, ffyrdd o wella effeithiolrwydd a gwerth am arian
YmgynghorIAITH
- Gweithredu Safonau’r Gymraeg (a Chynlluniau Iaith)
- Asesiadau Traw Effaith
- Gwerthusiad o’r Gyllideb
- Strategaeth Hybu’r Gymraeg
- Strategaeth Sgiliau Dwyieithog
- Strategaethau Hyfforddiant Iaith
- Defnydd Mewnol o’r Gymraeg
- Awdit sgiliau
- Cynllunio ieithyddol i reolwyr a swyddogion iaith
- Ymwybyddiaeth iaith
- Beth yw’r Safonau?
- Gweithredu Safonau’r Gymraeg: Hyfforddiant cychwynnol
- Cynefino
- Cynnig Rhagweithiol
- Beth yw prif ffrydio?
- Cwblhau asesiad traw effaith
- Hyfforddiant ar Strategaethau Sgiliau Dwyieithog
- Gwasanaeth Ymgynghorol ar Addysg Cyfrwng Cymraeg
- Cynllunio a chynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg
- Strategaethau Addysg Gymraeg
Hyfforddiant iaith
- Hyfforddiant sgiliau iaith
- Hyfforddiant Cymraeg yn y gweithle o ddechreuwyr hyd at Lefel A
- Hyfforddiant iaith i siaradwyr Cymraeg yn y gweithle
- Hyfforddiant arbenigol ar ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destun gwaith
- Mentora un i un
- Ysgrifennu areithiau a siarad cyhoeddus yn y Gymraeg ac yn ddwyieithog gan gynnwys terminoleg
Prosiectau Blaenorol
Pennaeth Newid – Gweithredu Safonau’r Gymraeg
Llywodraeth Cymru
- Arwain Rhaglen Newid fawr a phrosiectau mawr a niferus ynghlwm wrthi. Roedd angen trawsnewidiad o fewn y sefydliad o safbwynt cydymffurfiaeth a llywodraethiant er mwyn paratoi ar gyfer y rheoliadau a’r safonau newydd.
- Adrodd yn uniongyrchol i uwch-swyddogion y sefydliad.
- Cynllunio a chwblhau archwiliadau ar lefelau perfformiad cyfredol, gwerthuso systemau cydymffurfiaeth/llywodraethiant a gyrru’r Strategaeth Newid yn ei blaen trwy roi Cynlluniau Gweithredu ar waith ar draws y sefydliad er mwyn gwella perfformiad.
- Cwblhau Ymchwiliad Safonau gyda’r Comisiynydd Iaith.
- Creu, peilota a gweithredu’r Erfyn cyntaf ar gyfer Asesu’r Effaith ar y Gymraeg.
- Dyfeisio a pheilota Asesiad Effaith arloesol ar gyllideb Llywodraeth Cymru.
- Adolygu’r hyfforddiant corfforaethol – Trawsnewid y bas data e-sgiliau corfforaethol a chynnal awdit sgiliau ar draws Cymru a arweiniodd at Strategaeth Sgiliau Dwyieithog a darpariaeth hyfforddiant iaith newydd i staff.
- Cwblhau cyfres o sesiynau hyfforddiant ar draws Cymru i godi ymwybyddiaeth staff a’u hymwneud â’r Safonau.
Ymgynghoriaeth
Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan a Chaerdydd a’r Fro
Datblygu a darparu hyfforddiant arbennig wedi’i deilwra ar gyfer uwch-swyddogion. Wedi hynny, darparu hyfforddiant i staff ar draws y Bwrdd Iechyd ar Safonau’r Iaith Gymraeg a’r goblygiadau i’r sefydliad.
Ymchwilydd Addysg
Prifysgol Caerdydd ar ran Llywodraeth Cymru
Adnoddau, dulliau ac ymagweddau dysgu ac addysgu ym maes Cymraeg i Oedolion: Astudiaeth ymchwil gynhwysfawr ac adolygiad beirniadol o’r ffordd ymlaen. Ymchwilydd fel rhan o dîm
Link: http://gov.wales/statistics-and-research/welsh-adults-teaching-learning/?skip=1&lang=cy
Ymgynghorwr arbenigol yn cynghori ar yr iaith Gymraeg ac addysg cyfrwng Cymraeg
WISERD, Prifysgol Caerdydd
Y Cyfnod Sylfaen yw’r cwricwlwm statudol ar gyfer disgyblion 3 i 7 oed yng Nghymru. Sylfeini’r egwyddor yw y dylai darpariaeth y Cyfnod Sylfaen gynnig sylfaen gadarn ar gyfer dysgu i’r dyfodol trwy gwricwlwm datblygol addas.
Link: http://gov.wales/statistics-and-research/evaluation-foundation-phase/?skip=1&lang=cy
Ymgynghorydd i'r Llywodraeth
Grŵp Ymgynghorol Llywodraeth Cymru
- Gwerthuso’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg – Grŵp ar Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus
- Grŵp Ymgynghorwyr Arbenigol i’r Gweinidog – Strategaeth Iaith Pawb
Ymchwilydd ac Ymgynghorydd
Awdurdod Lleol Dyfed
Arwain a rheoli prosiect ymchwil i gostio’r broses o osod datganiad Anghenion Addysgol Ychwanegol ar blant. Arweiniodd hyn at argymhellion ar sicrhau prosesau a gweithdrefnau mwy tynn ac effeithlon er mwyn gwella effeithiolrwydd polisïau a ffyrdd o weithio.
Ymchwil
Iaith, Diwylliant a Marchnadoedd mewn Addysg Bellach yng Nghymru
Prosiect ymchwil dwys ar ddewisiadau addysgol myfyrwyr yng nghyd-destun marchnadoedd addysg, ffactorau economaidd, iaith, diwylliant a hunaniaethau.
Mentora a hyfforddi
Hyfforddiant un i un i ymarferwyr gyrfa cynnar Mentora uwch-arweinwyr a rheolwyr e.e. cydymffurfiaeth, llunio areithiau, cyflwyniadau cyhoeddus.
Geirdaon
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Trefnodd Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith i uwch staff ac, wedi hynny, gyfres o gyrsiau Cymraeg i staff ar draws y sefydliad. Roedd hyn yn strategol a phwrpasol er mwyn cynyddu diddordeb y staff a’u lefel ymgysylltu ac er mwyn codi ymwybyddiaeth gyffredinol am y safonau cenedlaethol. Gwrandawodd Rachel a’i thîm ar ein gofynion a theilwra pecyn o ddarpariaeth hyfforddiant yn unol â’n hanghenion. Yn bendant, fe fyddem yn gweithio gyda Rachel eto, yn arbennig oherwydd ei phroffesiynoldeb a’i harbenigedd ar y Gymraeg. Mwynhaodd y staff y sesiynau hyfforddi yn fawr.
Lesley Jones, Alun Williams.

Gwasanaeth Erlyn y Goron
Roedd Gwasanaeth Erlyn y Goron, Abertawe, eisiau gwella sgiliau ieithyddol ei staff ar bob lefel ac ar draws sawl adran. Yn benodol, roedd y Gwasanaeth eisiau hyfforddiant wedi’i deilwra ar gyfer cyfreithwyr er mwyn iddynt fagu mwy o hyder a dysgu terminoleg yn y Gymraeg er mwyn cyflwyno yn y Llys yn y Gymraeg. Roedden nhw hefyd eisiau codi sgiliau staff ar y dderbynfa ac mewn swyddogaethau rheng-flaen er mwyn gwella ansawdd y gwasanaeth Cymraeg. Lluniodd Rachel Heath-Davies gyrsiau wedi’u teilwra yn unol â gofynion y cleient a darparodd yr hyfforddiant dros gyfnod o flwyddyn. O ganlyniad, roedd y staff yn gallu defnyddio’u sgiliau Cymraeg mewn cyd-destun gwaith proffesiynol gyda mwy o hyder a hyfedredd.
Prifysgol Caerdydd
Penodwyd Rachel fel mentor staff i mi yn ôl yn 2012 pan gychwynnais mewn swydd fel Cydymaith Ymchwil. Roeddwn wedi cymryd y swydd ar ôl cyflwyno doethuriaeth a symud o Ogledd Cymru, felly er fy mod yn edrych ymlaen at y rôl newydd, roeddwn ar goll braidd hefyd! Darparodd Rachel oriau o drafod, a chyngor gwerthfawr i mi ynglŷn â sut i ddatblygu fel ymchwilwraig. Oherwydd ei bod hi mewn rôl allanol, roedd modd iddi gynnig gwybodaeth ddiduedd ynglŷn â sut i ddatblygu fy ngyrfa ymchwil, ac fe roddodd amser a gofal i’r gwaith, rhywbeth sydd wedi aros gyda mi hyd heddiw. Mae hi’n dyfalbarhau wrth fynd at unrhyw dasg, a wastad yn rhoi’r amser sydd ei angen i ddarparu’r wybodaeth y mae ei hangen ar unigolion i lwyddo. Oherwydd ei chyngor, rwyf wedi cyhoeddi yn fy maes, wedi edrych ar nifer o gyfleoedd cyllid ymchwil ac wedi dod yn rhan o adran academaidd ddynamig lle mae fy sgiliau yn cael eu cydnabod. Rwy’n falch o gymeradwyo Rachel fel mentor, ac mae hyn wedi ei seilio ar fy mhrofiad o weithio gyda hi dros y blynyddoedd.
Dr Mirain Rhys, Cardiff University.

Awdurdod Addysg Dyfed

Prosiectau
Rydym bob amser yn gweithio’n galed i ddarparu cyngor arbenigol ac annibynnol i fusnesau’ sydd â’r potensial i wneud gwahaniaeth.
Dyma restr o rai o’r prosiectau sydd gennym ar y ffordd.
- Hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith – Chwarae Teg – ar y ffordd
- Hyfforddiant i staff rheng-flaen mewn awdurdodau lleol er mwyn paratoi ar gyfer y safonau iaith newydd – cyn bo hir
- Ysgrifennu Strategaethau Hybu’r Gymraeg i awdurdodau lleol – erbyn mis Medi 2016