Mae RHD Consultancy yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau i helpu’ch busnes. Boed yn wasanaethau ymgynghoriaeth reoli, ymchwil, neu hyfforddiant iaith, byddwn yn gwneud ein gorau i ddarparu’r cymorth a’r cyngor rydych yn ei haeddu.

Ymchwilio a Gwerthuso

  • Gwerthuso polisïau
  • Prosiectau ymchwil
  • Ymchwiliadau e.e. cydymffurfiaeth, llywodraethiant, cwynion
  • Casglu a dadansoddi data a thystiolaeth er mwyn llunio a llywio polisïau
  • Adrodd, cyhoeddi a chyflwyno canfyddiadau, datrysiadau ac argymhellion
  • Ymgynghoriadau
  • Hwyluso grwpiau ffocws

Datrysiadau mewn Addysg

  • Sicrhau ansawdd a gwella parhaus
  • Datblygiad Proffesiynol Parhaus, hyfforddi, diwrnodau cwrdd i ffwrdd
  • Mentora ymarferwyr proffesiynol ac arweinwyr yn y maes addysg
  • Ymgysylltu, ymgynghori, a chyfathrebu ag ymarferwyr
  • Hyfforddiant i Lywodraethwyr
  • Prosiectau Llais y Dysgwr a boddhâd myfyrwyr
  • Llunio a gweithredu polisïau a strategaethau mewn cyd-destun addysg
  • Ymgysylltu â rhieni a’r gymuned

Ymgynghori

  • Llunio polisïau a strategaethau a’u datblygu, gweithredu, monitro a gwerthuso
  • Cyfeiriad strategol a llunio Cynlluniau Strategol
  • Rheoli rhaglenni a phrosiectau
  • Rheoli newid
  • Ymgynghoriadau
  • Ymgysylltu â staff a chyfathrebu mewnol
  • Cyflwyno i uwch reolwyr a byrddau rheoli
  • Creu pecynnau hyfforddi a chanllawiau i staff a chwsmeriaid
  • Ysgrifennu areithiau a siarad cyhoeddus
  • Mentora
  • Adnabod arbedion ariannol, ffyrdd o wella effeithiolrwydd a gwerth am arian

YmgynghorIAITH

  • Gweithredu Safonau’r Gymraeg (a Chynlluniau Iaith)
  • Asesiadau Traw Effaith
  • Gwerthusiad o’r Gyllideb
  • Strategaeth Hybu’r Gymraeg
  • Strategaeth Sgiliau Dwyieithog
  • Strategaethau Hyfforddiant Iaith
  • Defnydd Mewnol o’r Gymraeg
  • Awdit sgiliau
  • Cynllunio ieithyddol i reolwyr a swyddogion iaith
  • Ymwybyddiaeth iaith
    • Beth yw’r Safonau?
    • Gweithredu Safonau’r Gymraeg: Hyfforddiant cychwynnol
    • Cynefino
    • Cynnig Rhagweithiol
    • Beth yw prif ffrydio?
    • Cwblhau asesiad traw effaith
    • Hyfforddiant ar Strategaethau Sgiliau Dwyieithog
  • Gwasanaeth Ymgynghorol ar Addysg Cyfrwng Cymraeg
    • Cynllunio a chynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg
    • Strategaethau Addysg Gymraeg

Hyfforddiant iaith

  • Hyfforddiant sgiliau iaith
    • Hyfforddiant Cymraeg yn y gweithle o ddechreuwyr hyd at Lefel A
    • Hyfforddiant iaith i siaradwyr Cymraeg yn y gweithle
    • Hyfforddiant arbenigol ar ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destun gwaith
    • Mentora un i un
    • Ysgrifennu areithiau a siarad cyhoeddus yn y Gymraeg ac yn ddwyieithog gan gynnwys terminoleg

Unrhyw Gwestiwn?

Os hoffech gael unrhyw help neu ymgynghoriad cychwynnol am ddim, cysylltwch â ni.

Cysylltwch â ni

Prosiectau Blaenorol

Pennaeth Newid – Gweithredu Safonau’r Gymraeg

Llywodraeth Cymru

  • Arwain Rhaglen Newid fawr a phrosiectau mawr a niferus ynghlwm wrthi. Roedd angen trawsnewidiad o fewn y sefydliad o safbwynt cydymffurfiaeth a llywodraethiant er mwyn paratoi ar gyfer y rheoliadau a’r safonau newydd.
  • Adrodd yn uniongyrchol i uwch-swyddogion y sefydliad.
  • Cynllunio a chwblhau archwiliadau ar lefelau perfformiad cyfredol, gwerthuso systemau cydymffurfiaeth/llywodraethiant a gyrru’r Strategaeth Newid yn ei blaen trwy roi Cynlluniau Gweithredu ar waith ar draws y sefydliad er mwyn gwella perfformiad.
  • Cwblhau Ymchwiliad Safonau gyda’r Comisiynydd Iaith.
  • Creu, peilota a gweithredu’r Erfyn cyntaf ar gyfer Asesu’r Effaith ar y Gymraeg.
  • Dyfeisio a pheilota Asesiad Effaith arloesol ar gyllideb Llywodraeth Cymru.
  • Adolygu’r hyfforddiant corfforaethol – Trawsnewid y bas data e-sgiliau corfforaethol a chynnal awdit sgiliau ar draws Cymru a arweiniodd at Strategaeth Sgiliau Dwyieithog a darpariaeth hyfforddiant iaith newydd i staff.
  • Cwblhau cyfres o sesiynau hyfforddiant ar draws Cymru i godi ymwybyddiaeth staff a’u hymwneud â’r Safonau.

Ymgynghoriaeth

Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan a Chaerdydd a’r Fro

Datblygu a darparu hyfforddiant arbennig wedi’i deilwra ar gyfer uwch-swyddogion. Wedi hynny, darparu hyfforddiant i staff ar draws y Bwrdd Iechyd ar Safonau’r Iaith Gymraeg a’r goblygiadau i’r sefydliad.

Ymchwilydd Addysg

Prifysgol Caerdydd ar ran Llywodraeth Cymru

Adnoddau, dulliau ac ymagweddau dysgu ac addysgu ym maes Cymraeg i Oedolion: Astudiaeth ymchwil gynhwysfawr ac adolygiad beirniadol o’r ffordd ymlaen. Ymchwilydd fel rhan o dîm

Link: http://gov.wales/statistics-and-research/welsh-adults-teaching-learning/?skip=1&lang=cy

Ymgynghorwr arbenigol yn cynghori ar yr iaith Gymraeg ac addysg cyfrwng Cymraeg

WISERD, Prifysgol Caerdydd

Y Cyfnod Sylfaen yw’r cwricwlwm statudol ar gyfer disgyblion 3 i 7 oed yng Nghymru. Sylfeini’r egwyddor yw y dylai darpariaeth y Cyfnod Sylfaen gynnig sylfaen gadarn ar gyfer dysgu i’r dyfodol trwy gwricwlwm datblygol addas.

Link: http://gov.wales/statistics-and-research/evaluation-foundation-phase/?skip=1&lang=cy

Ymgynghorydd i'r Llywodraeth

Grŵp Ymgynghorol Llywodraeth Cymru

  1. Gwerthuso’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg – Grŵp ar Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus
  2. Grŵp Ymgynghorwyr Arbenigol i’r Gweinidog – Strategaeth Iaith Pawb

Ymchwilydd ac Ymgynghorydd

Awdurdod Lleol Dyfed

Arwain a rheoli prosiect ymchwil i gostio’r broses o osod datganiad Anghenion Addysgol Ychwanegol ar blant. Arweiniodd hyn at argymhellion ar sicrhau prosesau a gweithdrefnau mwy tynn ac effeithlon er mwyn gwella effeithiolrwydd polisïau a ffyrdd o weithio.

Ymchwil

Iaith, Diwylliant a Marchnadoedd mewn Addysg Bellach yng Nghymru

Prosiect ymchwil dwys ar ddewisiadau addysgol myfyrwyr yng nghyd-destun marchnadoedd addysg, ffactorau economaidd, iaith, diwylliant a hunaniaethau.

Mentora a hyfforddi

Hyfforddiant un i un i ymarferwyr gyrfa cynnar Mentora uwch-arweinwyr a rheolwyr e.e. cydymffurfiaeth, llunio areithiau, cyflwyniadau cyhoeddus.

Geirdaon

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Trefnodd Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith i uwch staff ac, wedi hynny, gyfres o gyrsiau Cymraeg i staff ar draws y sefydliad. Roedd hyn yn strategol a phwrpasol er mwyn cynyddu diddordeb y staff a’u lefel ymgysylltu ac er mwyn codi ymwybyddiaeth gyffredinol am y safonau cenedlaethol. Gwrandawodd Rachel a’i thîm ar ein gofynion a theilwra pecyn o ddarpariaeth hyfforddiant yn unol â’n hanghenion. Yn bendant, fe fyddem yn gweithio gyda Rachel eto, yn arbennig oherwydd ei phroffesiynoldeb a’i harbenigedd ar y Gymraeg. Mwynhaodd y staff y sesiynau hyfforddi yn fawr.

Lesley Jones, Alun Williams.

Gwasanaeth Erlyn y Goron

Roedd Gwasanaeth Erlyn y Goron, Abertawe, eisiau gwella sgiliau ieithyddol ei staff ar bob lefel ac ar draws sawl adran. Yn benodol, roedd y Gwasanaeth eisiau hyfforddiant wedi’i deilwra ar gyfer cyfreithwyr er mwyn iddynt fagu mwy o hyder a dysgu terminoleg yn y Gymraeg er mwyn cyflwyno yn y Llys yn y Gymraeg. Roedden nhw hefyd eisiau codi sgiliau staff ar y dderbynfa ac mewn swyddogaethau rheng-flaen er mwyn gwella ansawdd y gwasanaeth Cymraeg. Lluniodd Rachel Heath-Davies gyrsiau wedi’u teilwra yn unol â gofynion y cleient a darparodd yr hyfforddiant dros gyfnod o flwyddyn. O ganlyniad, roedd y staff yn gallu defnyddio’u sgiliau Cymraeg mewn cyd-destun gwaith proffesiynol gyda mwy o hyder a hyfedredd.

Prifysgol Caerdydd

Penodwyd Rachel fel mentor staff i mi yn ôl yn 2012 pan gychwynnais mewn swydd fel Cydymaith Ymchwil. Roeddwn wedi cymryd y swydd ar ôl cyflwyno doethuriaeth a symud o Ogledd Cymru, felly er fy mod yn edrych ymlaen at y rôl newydd, roeddwn ar goll braidd hefyd! Darparodd Rachel oriau o drafod, a chyngor gwerthfawr i mi ynglŷn â sut i ddatblygu fel ymchwilwraig. Oherwydd ei bod hi mewn rôl allanol, roedd modd iddi gynnig gwybodaeth ddiduedd ynglŷn â sut i ddatblygu fy ngyrfa ymchwil, ac fe roddodd amser a gofal i’r gwaith, rhywbeth sydd wedi aros gyda mi hyd heddiw. Mae hi’n dyfalbarhau wrth fynd at unrhyw dasg, a wastad yn rhoi’r amser sydd ei angen i ddarparu’r wybodaeth y mae ei hangen ar unigolion i lwyddo. Oherwydd ei chyngor, rwyf wedi cyhoeddi yn fy maes, wedi edrych ar nifer o gyfleoedd cyllid ymchwil ac wedi dod yn rhan o adran academaidd ddynamig lle mae fy sgiliau yn cael eu cydnabod. Rwy’n falch o gymeradwyo Rachel fel mentor, ac mae hyn wedi ei seilio ar fy mhrofiad o weithio gyda hi dros y blynyddoedd.

Dr Mirain Rhys, Cardiff University.

Awdurdod Addysg Dyfed

Yr oeddwn yn hapus iawn gyda’r gwaith arbennig wnaeth Rachel a oedd o safon ansawdd uchel ac o werth i Awdurdod Addysg Lleol Dyfed.  Oherwydd hyn, cyflwynom gais i gystadleuaeth genedlaethol ac ennillom y wobr genedlaethol. Rydym yn cymeradwyo Rachel yn fawr.
Brian Miles, Dyfed LEA.

Prosiectau

Rydym bob amser yn gweithio’n galed i ddarparu cyngor arbenigol ac annibynnol i fusnesau’ sydd â’r potensial i wneud gwahaniaeth.

Dyma restr o rai o’r prosiectau sydd gennym ar y ffordd.

  • Hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith – Chwarae Teg – ar y ffordd
  • Hyfforddiant i staff rheng-flaen mewn awdurdodau lleol er mwyn paratoi ar gyfer y safonau iaith newydd – cyn bo hir
  • Ysgrifennu Strategaethau Hybu’r Gymraeg i awdurdodau lleol – erbyn mis Medi 2016

Am restr lawn o’n prosiectau sydd ar y gweill yn ogystal â chadw golwg ar bob un o’n prosiectau ben ar at y tudalennau Newyddion.

Newyddion