Mae RHD Consultancy yn darparu gwasanaeth ymgynghori arbenigol ac annibynnol i ystod eang o sefydliadau a busnesau, a’r gwasanaeth wedi’i deilwra yn arbennig i’ch anghenion.
Rydym yn darparu ymgynghoriaeth reoli o ansawdd uchel, gan gynnwys rheoli prosiect, arweinyddiaeth strategol a chynllunio busnes, ymchwil a gwerthusiadau, gweithredu polisïau a strategaethau, rheoli newid, cyngor ar gydymffurfiaeth a llywodraethiant.
Rydym yn ymgynghorwyr rheoli proffesiynol ar draws pob sector, gan gynnwys y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector.
Mae ein harbenigedd pennaf mewn addysg a hyfforddiant a’r iaith Gymraeg.

Rydym yn gweithio’n gwbl ddwyieithog ac mae ein gwasanaethau ymgynghorol i gyd ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Rydym yn cynnig
Gwasanaethau ymgynghorol ar reoli
O gynllunio strategol i lunio polisiau a strategaethau, i gyngor arbenigol a chymorth ar lywodraethiant a chydymffurfiaeth, byddwn yn gallu helpu’ch busnes gyda rheoli ac arwain.
- Polisi a strategaeth – ysgrifennu, datblygu, cynghori, llunio a gweithredu
- Cynllunio ar gyfer safonau cenedlaethol, eu monitro a’u gweithredu
- Cefnogi a chynghori ar lywodraethiant a chydymffurfiaeth
- Rheoli newid
- Rheoli prosiectau a rhaglenni
- Ymgynghoriadau, ac ymgysylltu yn fewnol ac yn allanol
- Ymchwilio a gwerthuso, ymchwil farchnad ac adolygiadau
Addysg a hyfforddiant
Rydym yn gallu cynnig gweledigaeth, cefnogaeth a chyngor gyda datrysiadau addysg a hyfforddi.
- Datblygu a darparu hyfforddiant staff
- Mentora a hyfforddi un i un
- Ymgysylltu, ymgynghori, cyfathrebu â staff, myfyrwyr a rhanddeiliaid
- Hyfforddiant i Lywodraethwyr
- Ymgyrchoedd Llais y Dysgwr
- Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg
- Gweithredu polisïau addysg cyfrwng Cymraeg a safonau cenedlaethol
- Ymgysylltu â rhieni a’r gymuned
YmgynghorIAITH – Ymgynghoriaeth y Gymraeg
Oherwydd ein harbenigedd yn y maes iaith, rydym yn cynnig hyfforddiant iaith yn ogystal â gwasanaethau ymgynghorol arbenigol ar bolisi iaith a chynllunio ieithyddol a gallwn eich helpu drwy’r broses i gyd.
- Cyngor ar faterion statudol e.e. Safonau’r Gymraeg
- Hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith
- Cyngor arbenigol un i un
- Hyfforddiant iaith Gymraeg ar bob lefel, wedi’i deilwra i’ch cyd-destun
- Ysgrifennu Polisïau a Strategaethau ar y Gymraeg
- Strategaethau Sgiliau Dwyieithog, Cynlluniau Hyfforddi Corfforaethol
- Asesiadau Effaith ar y Gymraeg
- Strategaethau Hybu’r Gymraeg
- Cyngor arbenigol ar gynyddu defnydd o’r Gymraeg yn fewnol
- Hyfforddiant iaith un i un a mentora i uwch-reolwyr
YmgynghorIAITH

Ydych chi’n barod ar gyfer y Safonau Iaith newydd?
Mae gan y Dr Rachel Heath-Davies, Cyfarwyddwraig a Pherchennog YmgynghorIAITH, dros 20 mlynedd o brofiad yn dysgu Cymraeg yn y Gweithle ac mae ganddi brofiad a dealltwriaeth helaeth o bolisi’r iaith Gymraeg a Safonau’r Gymraeg. Rydym yn darparu gwasanaethau ymgynghorol a hyfforddiant iaith sy’n ateb eich gofynion penodol chi fel busnes ac y byddwn yn gweithio’n agos gyda chi i sicrhau bod yr hyfforddiant yn addas i’ch cyd-destun gwaith chi.
Beth mae ein cleientiaid yn meddwl

Penodwyd Rachel fel mentor staff i mi yn ôl yn 2012 pan gychwynnais mewn swydd fel Cydymaith Ymchwil. Roeddwn wedi cymryd y swydd ar ôl cyflwyno doethuriaeth a symud o Ogledd Cymru, felly er fy mod yn edrych ymlaen at y rôl newydd, roeddwn ar goll braidd hefyd! Darparodd Rachel oriau o drafod, a chyngor gwerthfawr i mi ynglŷn â sut i ddatblygu fel ymchwilwraig. Oherwydd ei bod hi mewn rôl allanol, roedd modd iddi gynnig gwybodaeth ddiduedd ynglŷn â sut i ddatblygu fy ngyrfa ymchwil, ac fe roddodd amser a gofal i’r gwaith, rhywbeth sydd wedi aros gyda mi hyd heddiw. Mae hi’n dyfalbarhau wrth fynd at unrhyw dasg, a wastad yn rhoi’r amser sydd ei angen i ddarparu’r wybodaeth y mae ei hangen ar unigolion i lwyddo. Oherwydd ei chyngor, rwyf wedi cyhoeddi yn fy maes, wedi edrych ar nifer o gyfleoedd cyllid ymchwil ac wedi dod yn rhan o adran academaidd ddynamig lle mae fy sgiliau yn cael eu cydnabod. Rwy’n falch o gymeradwyo Rachel fel mentor, ac mae hyn wedi ei seilio ar fy mhrofiad o weithio gyda hi dros y blynyddoedd.

Trefnodd Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith i uwch staff ac, wedi hynny, gyfres o gyrsiau Cymraeg i staff ar draws y sefydliad. Roedd hyn yn strategol a phwrpasol er mwyn cynyddu diddordeb y staff a’u lefel ymgysylltu ac er mwyn codi ymwybyddiaeth gyffredinol am y safonau cenedlaethol. Gwrandawodd Rachel a’i thîm ar ein gofynion a theilwra pecyn o ddarpariaeth hyfforddiant yn unol â’n hanghenion. Yn bendant, fe fyddem yn gweithio gyda Rachel eto, yn arbennig oherwydd ei phroffesiynoldeb a’i harbenigedd ar y Gymraeg. Mwynhaodd y staff y sesiynau hyfforddi yn fawr.