Mae RHD Consultancy yn darparu gwasanaeth ymgynghori arbenigol ac annibynnol i ystod eang o sefydliadau a busnesau, a’r gwasanaeth wedi’i deilwra yn arbennig i’ch anghenion.

Rydym yn darparu ymgynghoriaeth reoli o ansawdd uchel, gan gynnwys rheoli prosiect, arweinyddiaeth strategol a chynllunio busnes, ymchwil a gwerthusiadau, gweithredu polisïau a strategaethau, rheoli newid, cyngor ar gydymffurfiaeth a llywodraethiant.

Rydym yn ymgynghorwyr rheoli proffesiynol ar draws pob sector, gan gynnwys y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector.

Mae ein harbenigedd pennaf mewn addysg a hyfforddiant a’r iaith Gymraeg.

Rydym yn gweithio’n gwbl ddwyieithog ac mae ein gwasanaethau ymgynghorol i gyd ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Testun Saesneg

Rydym yn cynnig

Gwasanaethau ymgynghorol ar reoli

O gynllunio strategol i lunio polisiau a strategaethau, i gyngor arbenigol a chymorth ar lywodraethiant a chydymffurfiaeth, byddwn yn gallu helpu’ch busnes gyda rheoli ac arwain.

Gwybod Mwy
  • Polisi a strategaeth – ysgrifennu, datblygu, cynghori, llunio a gweithredu
  • Cynllunio ar gyfer safonau cenedlaethol, eu monitro a’u gweithredu
  • Cefnogi a chynghori ar lywodraethiant a chydymffurfiaeth
  • Rheoli newid
  • Rheoli prosiectau a rhaglenni
  • Ymgynghoriadau, ac ymgysylltu yn fewnol ac yn allanol
  • Ymchwilio a gwerthuso, ymchwil farchnad ac adolygiadau

Addysg a hyfforddiant

Rydym yn gallu cynnig gweledigaeth, cefnogaeth a chyngor gyda datrysiadau addysg a hyfforddi.

Gwybod Mwy
  • Datblygu a darparu hyfforddiant staff
  • Mentora a hyfforddi un i un
  • Ymgysylltu, ymgynghori, cyfathrebu â staff, myfyrwyr a rhanddeiliaid
  • Hyfforddiant i Lywodraethwyr
  • Ymgyrchoedd Llais y Dysgwr
  • Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg
  • Gweithredu polisïau addysg cyfrwng Cymraeg a safonau cenedlaethol
  • Ymgysylltu â rhieni a’r gymuned

YmgynghorIAITH – Ymgynghoriaeth y Gymraeg

Oherwydd ein harbenigedd yn y maes iaith, rydym yn cynnig hyfforddiant iaith yn ogystal â gwasanaethau ymgynghorol arbenigol ar bolisi iaith a chynllunio ieithyddol a gallwn eich helpu drwy’r broses i gyd.

Gwybod Mwy
  • Cyngor ar faterion statudol e.e. Safonau’r Gymraeg
  • Hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith
  • Cyngor arbenigol un i un
  • Hyfforddiant iaith Gymraeg ar bob lefel, wedi’i deilwra i’ch cyd-destun
  • Ysgrifennu Polisïau a Strategaethau ar y Gymraeg
  • Strategaethau Sgiliau Dwyieithog, Cynlluniau Hyfforddi Corfforaethol
  • Asesiadau Effaith ar y Gymraeg
  • Strategaethau Hybu’r Gymraeg
  • Cyngor arbenigol ar gynyddu defnydd o’r Gymraeg yn fewnol
  • Hyfforddiant iaith un i un a mentora i uwch-reolwyr

Unrhyw Gwestiwn?

Os ydych chi angen gwybod mwy neu holi am unrhyw un o’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig, mae’n syml…

Cysylltwch â ni

YmgynghorIAITH

Ydych chi’n barod ar gyfer y Safonau Iaith newydd?

Mae gan y Dr Rachel Heath-Davies, Cyfarwyddwraig a Pherchennog YmgynghorIAITH, dros 20 mlynedd o brofiad yn dysgu Cymraeg yn y Gweithle ac mae ganddi brofiad a dealltwriaeth helaeth o bolisi’r iaith Gymraeg a Safonau’r Gymraeg. Rydym yn darparu gwasanaethau ymgynghorol a hyfforddiant iaith sy’n ateb eich gofynion penodol chi fel busnes ac y byddwn yn gweithio’n agos gyda chi i sicrhau bod yr hyfforddiant yn addas i’ch cyd-destun gwaith chi.

Gwybod Mwy

Beth mae ein cleientiaid yn meddwl

Penodwyd Rachel fel mentor staff i mi yn ôl yn 2012 pan gychwynnais mewn swydd fel Cydymaith Ymchwil. Roeddwn wedi cymryd y swydd ar ôl cyflwyno doethuriaeth a symud o Ogledd Cymru, felly er fy mod yn edrych ymlaen at y rôl newydd, roeddwn ar goll braidd hefyd! Darparodd Rachel oriau o drafod, a chyngor gwerthfawr i mi ynglŷn â sut i ddatblygu fel ymchwilwraig. Oherwydd ei bod hi mewn rôl allanol, roedd modd iddi gynnig gwybodaeth ddiduedd ynglŷn â sut i ddatblygu fy ngyrfa ymchwil, ac fe roddodd amser a gofal i’r gwaith, rhywbeth sydd wedi aros gyda mi hyd heddiw. Mae hi’n dyfalbarhau wrth fynd at unrhyw dasg, a wastad yn rhoi’r amser sydd ei angen i ddarparu’r wybodaeth y mae ei hangen ar unigolion i lwyddo. Oherwydd ei chyngor, rwyf wedi cyhoeddi yn fy maes, wedi edrych ar nifer o gyfleoedd cyllid ymchwil ac wedi dod yn rhan o adran academaidd ddynamig lle mae fy sgiliau yn cael eu cydnabod. Rwy’n falch o gymeradwyo Rachel fel mentor, ac mae hyn wedi ei seilio ar fy mhrofiad o weithio gyda hi dros y blynyddoedd.
Dr Mirain Rhys, Prifysgol Caerdydd
Trefnodd Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith i uwch staff ac, wedi hynny, gyfres o gyrsiau Cymraeg i staff ar draws y sefydliad. Roedd hyn yn strategol a phwrpasol er mwyn cynyddu diddordeb y staff a’u lefel ymgysylltu ac er mwyn codi ymwybyddiaeth gyffredinol am y safonau cenedlaethol. Gwrandawodd Rachel a’i thîm ar ein gofynion a theilwra pecyn o ddarpariaeth hyfforddiant yn unol â’n hanghenion. Yn bendant, fe fyddem yn gweithio gyda Rachel eto, yn arbennig oherwydd ei phroffesiynoldeb a’i harbenigedd ar y Gymraeg. Mwynhaodd y staff y sesiynau hyfforddi yn fawr.
Lesley Jones, Alun Williams, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro